SWYDDOG CYMORTH (CYNGOR A CHYNNYDD)
Hormar – Rhaglen Llwybrau Ymlaen
Oriau: Sawl swydd ar gael:
- 2 × 21 awr yr wythnos
- 1 × 14 awr yr wythnos
Lleoliad: Caerdydd
Gwyliau Blynyddol: 28 diwrnod ynghyd â gwyliau banc (pro rata)
Gwybodaeth am y Cyflog
Mae’r cyflog yn gystadleuol a bydd yn seiliedig ar brofiad, cymwysterau a sgiliau. Mae Hayaat Women Trust wedi ymrwymo i ddarparu tâl teg a chyfartal ar draws pob rôl. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ag ystod o brofiadau perthnasol a byddwn yn trafod tâl gyda’r ymgeiswyr ar y rhestr fer yn ystod y broses recriwtio.
Ynglŷn â’r Swydd
A oes gennych angerdd dros helpu pobl i oresgyn heriau a chyflawni eu nodau?
Mae Hayaat Women Trust yn chwilio am Swyddogion Cymorth brwdfrydig i ddarparu cyngor, eiriolaeth a chymorth cynnydd i unigolion a theuluoedd o gymunedau diaspora Affricanaidd a chymunedau
lleiafrifoedd ethnig.
Mae’r rôl yn cynnwys darparu cyngor lles, cymorth tai, addysg, cynhwysiant digidol, gwirfoddoli, hyfforddiant a llwybrau cyflogaeth. Gan weithio fel rhan o dîm cymunedol ymroddedig, byddwch yn grymuso pobl i oresgyn rhwystrau, manteisio ar gyfleoedd a gwella eu llesiant a chanlyniadau bywyd. Byddwch hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr sy’n helpu i ehangu cyrhaeddiad ein gwasanaethau.
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- Â phrofiad mewn gwasanaethau cyngor, eiriolaeth neu gymorth cymunedol.
- Yn deall budd-daliadau lles, tai, addysg neu systemau cymorth cysylltiedig.
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rheoli achosion cryf.
- Yn hyderus wrth gefnogi pobl gyda sgiliau digidol a gwasanaethau ar-lein.
- Yn gallu gweithio’n sensitif gyda chymunedau amrywiol a chynnal ffiniau proffesiynol.
Dymunol:
- Cymwysterau ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, seicoleg neu waith cymunedol.
- Profiad o gefnogi pobl â chyflyrau niwroddirywiol a gofalwyr.
- Sgiliau iaith a chymhwysedd diwylliannol sy’n berthnasol i gymunedau diaspora Affricanaidd.
Yr Hyn a Gynigiwn:
- Trefniadau gweithio hyblyg.
- Rhaglen sefydlu a mentora gynhwysfawr.
- Cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.
- Amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol.
Gwneud Cais
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn nodi sut mae eich sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y swydd. Mae gwiriadau DBS Estynedig a hyfforddiant diogelu yn ofynnol.
Dyddiad Cau: 9 Medi 2026, 5:00pm
Cyswllt: Faisal Hashi
Ffôn: 02920 026470
E-bost: faisal@hayaatwomentrust.org

SUPPORT OFFICER (ADVICE & ADVANCEMENT)
Hormar – Pathways Forward ProgrammeHours: Multiple posts available:
- 2 × 21 hours per week
- 1 × 14 hours per week
Location: Butetown Community Centre, Cardiff, with
outreach across the city
Annual Leave: 28 days plus bank holidays (pro rata)
Salary Information
Salary is competitive and will be based on experience, qualifications, and skills. Hayaat Women Trust is committed to fair and equitable pay across all roles.
About the Role
Do you have a passionfor helping people navigate challenges and achieve their goals?
Hayaat Women Trust is seeking motivated Support Officers to provide advice, advocacy and progression
support to individuals and families from African diaspora and racially minoritised communities.
The role covers welfare advice, housing support, education, digital inclusion, volunteering, training and employment pathways. Working as part of a dedicated community team, you will empower people to overcome barriers, access opportunities, and improve their well-being and life outcomes. You will also play a leading role in recruiting and supporting volunteers who help strengthen the reach of our services.
We are
looking for someone who:
- Has experience in advice, advocacy or community support services.
- Understands welfare benefits, housing, education or related support systems.
- Has strong communication and casework skills.
- Is confident supporting people with digital skills and online services.
- Can work sensitively with diverse communities and maintain professional boundaries.
Desirable:
- Qualifications in health, social care, psychology or community work.
- Experience supporting people with neurodegenerative conditions and carers.
- Language skills and cultural competence relevant to African diaspora communities.
What we offer:
- Flexible working arrangements.
- Comprehensive induction and mentoring.
- Ongoing professional development opportunities.
- Supportive and inclusive working environment.
Apply
Please send your CV and covering letter explaining how your skills and experience meet the requirements
of the role. Enhanced DBS checks and safeguarding training are required.
Closing Date: 9th September 2026, 5:00pm
Contact: Faisal Hashi
Tel: 02920 026470
Email: faisal@hayaatwomentrust.org
